Cit y Clwb

Mae Cit y clwb wedi ei gynhyrchu gan GSG un o`r cyhyrchwyr sydd ar flaen y gad yn y maes yma, wedi ei lleoli yng ngogledd ddwyrain yr Eidal, gyda traddodiad pwysig ym myd beicio a cynhyrchu dillad pwrpasol i`r gamp.

Gwelwch y lluniau a prisiau isod, i weld beth sydd ar gael. Nid yw yn bosib i archebu un set ar lein, nag yn union gan GSG oherwydd mae y cwmni angen archeb sylweddol cyn dosbarthu i`r cyhoedd fel unigolion.

Rydym yn cadw stoc eang I ffitio pob maint, ac os bu stoc maint arbenig yn diriwio mi fyddwn yn ail archebu yr eitemau pan fo`r galw.

Mesuriad- rydym yn awgrymu`n gryf ichi roi pob eitem ymlaen cyn archebu a penderfynu os oes well ganddoch wisg tyn neu llac! Gwelwch y siart mesur isod.

Os ydych am archebu :

  1. Edrychwch ar yr eitemau, prisiau a mesuriadau isod.
  2. Gallwch gadarnhau os yw y stoc diweddaraf a pob eitem ar gael yn eich maint.- cliciwch ar y link:   Rhestr Cit y clwb
  3. Email your request to the kit holder at Kit@ruthin.cc. Please include a contact telephone number.  We will get back to you to confirm that the size is in stock, arrange a time/place (generally in the Clocaenog or Ruthin area) to try on the item for size, and to arrange payment.

Bu cyfle i newid yr eitemau os nad ydynt yn ffitio ac yn hwylus amdanoch, cyn belled eu bod mewn cyflwr fel newydd yn cynwys labelau a`r pecynnu fel y gwreiddiol fel ddaru chi ei derbyn. Er mwyn cyd aelodau ei derbyn yn yr un cyflwr.

Sylwer-Dim ond aelodau y clwb sydd yn gymwys i archebu y cit.

Cliciwch ar yr eitemau isod am fwy o fanylder:

Gwybodaeth maint yn fras isod – pob mesuriad mewn modfeddi

MaintXXSXSSML
Brest3335363940
Canol2829313234
O amgylch Cluniau3638394142
Ochr i mewn y Goes3031313232
MaintXLXXL3XL4XL5XL
Brest4142444647
Canol3537394042
O amgylch Cluniau4446474950
Ochr i mewn y Goes3233333434