Ymunwch a ni

Os oes diddordeb, peidiwch a bod yn swil, rydym yn griw cyfeillgar, mae reidiau ar gyfer pob gallu ar gael ac yn bosib.

Rydym yn awgrymu i chi rhoi tro arni tua dwywaith dair cyn ymuno yn swyddogol (ne ddim).

Er mwyn eich reid gyntaf i ymuno ac gwneud yn siwr fod arweinydd yn eich disgwyl, byddwch angen Cliciwch yma I yrru eich cyfeiriad ebost.

Os gallwch gynwys eich rhif ffon ac amser delfrydol i gysylltu, bydd rhywun yn galw am sgwrs i ateb unrhyw gwestiynau, neu fel arall defnyddio ebost.

Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda-gwirfoddolwyr yw`r aelodau wedi`r cyfan!

Gallwch ymuno gyda Clwb Seiclo Rhuthun ar gwefan British Cycling Yma

Pris aelodaeth yw £20 yn flynyddol o 2ail o Ionawr, os byddwch yn ymaelodi o 1af o Fedi ymlaen bydd y flwyddyn ganlynol yn gynwysiedig. Yn anffodus ni allwn dderbyn aelodau iau (o dan18) nid oes ganddom swyddogion gyda`r cymhwysterau priodol, serch hynnu mae croeso i rhai iau I ymuno gyda rhiant neu ofalwr sydd yn fodlon bod yn gyfrifol amdanynt a bod ei gallu yn briodol i orffen y daith.

Nid oes angen ymuno a British Cycling I ymuno a Clwb Rhuthun, ei swydd nhw yw delio gyda talu aelodaeth a.y.b, eu costau am hynu yw £1yn unig.

Aeoldau ifancach


Pe bai person dan 18 oed yn dymuno mynd ar reid clwb rhaid iddo fod yng nghwmni oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant. Gofynnwn hefyd i’r rhiant/gwarcheidwad lenwi ffurflen ganiatâd (gweler ein gwefan) Tudalen Dogfennau’r Clwb am dempled) a'i roi i arweinydd y reid cyn y reid.
Ni allwn dderbyn rhai dan 18 oed ar reidiau clwb gan ein bod yn defnyddio ffyrdd cyhoeddus.

Mae nifer o glybiau lleol wedi'u hachredu neu wedi'u cofrestru fel clybiau Go-Ride Beicio Prydain, felly maent yn darparu ar gyfer beicwyr iau ac efallai bod ganddynt fynediad i gyfleusterau oddi ar y ffordd. Gallwch ddod o hyd i glybiau Go-Ride lleol ar wefan British Cycling Yma.

Maent yn cynnwys:

Fibrax Wrexham Roads Club

Rhyl Cycling Club

Velo Club Melyd

Oneplanet Adventure